Manylion y penderfyniad

Dadl ar Araith y Frenhines

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

NDM6060 Elin Jones (Ceredigion)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2016/2017.

Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn unig):
https://www.gov.uk/government/topical-events/queens-speech-2016

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 13.02

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl.

NDM6060 Elin Jones (Ceredigion)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2016/2017.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

11

45

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi'r Briff Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

11

0

45

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM6060 Elin Jones (Ceredigion)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2016/2017.

 

2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.

 

3. Yn nodi'r Briff Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

2

10

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2016

Dyddiad y penderfyniad: 06/07/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd