Manylion y penderfyniad
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae gofyn i’r Cynulliad
enwebu Prif Weinidog o fewn 28 niwrnod ar ôl etholiad Cynulliad.
Gellir enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog yn y
Cyfarfod Llawn cyntaf ar ol etholiad neu yn ystod unrhyw Gyfarfod Llawn wedi
hynny, yn amodol ar benderfyniad y Cynulliad i wneud hynny. Bydd y Llywydd yn
gwahodd y Cynulliad i gytuno y caiff enwebiadau eu gwneud. Os bydd Aelod yn
gwrthwynebu, cynhelir pleidlais electronig. Bydd trafodion enwebu’n digwydd dim
ond os bydd mwyafrif yr Aelodau sy’n pleidleisio yn cytuno a hynny.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Yn dilyn y cyfarfod ar 11 Mai 2016, parhaodd y Llywydd gyda phroses
enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.
Gofynnodd y Llywydd am gadarnhad bod enwau Carwyn Jones a Leanne Wood yn
parhau.
Tynnodd Rhun ap Iorwerth enwebiad Leanne Wood yn ôl.
Pwynt o Drefn
Cododd Mark Reckless bwynt o drefn ynghylch tynnu enwebiad Leanne Wood fel
Prif Weinidog yn ôl gan ddyfynnu Rheol Sefydlog 8.3 bod yn rhaid cynnal
pleidlais arall drwy alw'r gofrestr pe byddai'r pleidleisiau'n gyfartal.
Dyfarnodd y Llywydd y byddai'n afresymol gorfodi unrhyw un nad oedd bellach yn
dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd ac nad oedd
darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i ail-agor yr enwebiadau wedi iddynt gael eu
cau.
Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, dywedodd y Llywydd y
byddai'n argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Carwyn Jones yn Brif
Weinidog.
Gwahoddodd y Llywydd Carwyn Jones i annerch y Cynulliad, a dilynwyd ef gan
arweinwyr y gwrthbleidiau.
Dyddiad cyhoeddi: 25/05/2016
Dyddiad y penderfyniad: 18/05/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd