Manylion y penderfyniad
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae gofyn i’r Cynulliad
enwebu Prif Weinidog o fewn 28 niwrnod ar ôl etholiad Cynulliad.
Gellir enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog yn y
Cyfarfod Llawn cyntaf ar ol etholiad neu yn ystod unrhyw Gyfarfod Llawn wedi
hynny, yn amodol ar benderfyniad y Cynulliad i wneud hynny. Bydd y Llywydd yn
gwahodd y Cynulliad i gytuno y caiff enwebiadau eu gwneud. Os bydd Aelod yn
gwrthwynebu, cynhelir pleidlais electronig. Bydd trafodion enwebu’n digwydd dim
ond os bydd mwyafrif yr Aelodau sy’n pleidleisio yn cytuno a hynny.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.01.
Penderfynodd y Cynulliad gymryd enwebiadau ar
gyfer penodi Prif Weinidog, yn unol â Rheol Sefydlog 12.11.
Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer penodi
Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 8.2.
Cafodd Carwyn Jones ei enwebu gan Jane Hutt.
Cafodd Leanne Wood ei henwebu gan Rhun ap
Iorwerth.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais drwy
alw cofrestr yr Aelodau. Gwahoddodd y Llywydd bob Aelod a oedd yn bresennol i
bleidleisio dros ymgeisydd. Cafodd
Aelodau eu galw yn nhrefn yr wyddor. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni
chaniatawyd i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio.
Canlyniad y bleidlais oedd:
Carwyn Jones |
Leanne Wood |
Ymatal |
Cyfanswm |
29 |
29 |
0 |
58 |
[gweler y crynodeb o’r pleidleisiau i gael y canlyniad
llawn]
Gan fod y pleidleisiau rhwng y ddau ymgeisydd yn
gyfartal, ataliodd y Llywydd y cyfarfod am 15.09.
Ailymgynullodd y cyfarfod am 15.47. Cyhoeddodd y
Llywydd, gan ei bod yn amlwg na fyddai cynnal pleidlais arall drwy alw’r
gofrestr yn arwain at ganlyniad pendant, ei bod yn gohirio’r cyfarfod ac yn
dwyn y trafodion i ben.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.8, bydd y Llywydd yn
sicrhau y caiff yr Aelodau eu hysbysu o ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 12/05/2016
Dyddiad y penderfyniad: 11/05/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd