Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5984 Elin Jones (Ceredigion)
1. Yn gresynu at y ffaith bod
gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.
2. Yn nodi bod amseroedd aros
ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn
Lloegr a'r Alban.
3. Yn gresynu at yr
anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau
canser.
4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf
Cymru i:
a) gwella'r perfformiad mewn
perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl
y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu
gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu
cyfeirio i gael eu profi;
b) cyflwyno cronfa triniaethau
newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau
bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid
lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a
c) sicrhau bod pob claf canser
yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn
rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
38 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:
'a rhwng Cymru a rhannau
eraill o'r DU.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4b), dileu 'cyflwyno
cronfa triniaethau newydd' a rhoi yn ei le
'ymestyn y gronfa technolegau iechyd i feddyginiaethau newydd'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
42 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'datblygu panel Cymru gyfan ar
gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol i osgoi'r loteri cod post sy'n bodoli
eisoes ar gyfer triniaethau canser yng Nghymru.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
34 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'sefydlu gwasanaeth trin
canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd
am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'sefydlu ymgyrch addysg
gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'darparu gwarant o apwyntiad
dilynol fel bod pob claf yn cael ei weld o fewn chwe mis ar y mwyaf o ddiwedd
ei gyfnod cychwynnol o driniaeth canser ac ymhellach yn galw am casglu a
chyhoeddi data yn rheolaidd i fonitro perfformiad yn erbyn y warant.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
8 |
23 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'penodi eiriolwr dros gleifion
canser i ddwyn Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i gyfrif mewn perthynas
â chyflawni cynlluniau cyflenwi canser cenedlaethol a lleol.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5984 Elin Jones
(Ceredigion)
1. Yn gresynu at y ffaith bod
gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.
2. Yn nodi bod amseroedd aros
ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn
Lloegr a'r Alban.
3. Yn gresynu at yr
anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau
canser.
4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf
Cymru i:
a) gwella'r perfformiad mewn
perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl
y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu
gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu
cyfeirio i gael eu profi;
b) cyflwyno cronfa triniaethau
newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau
bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid
lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a
c) sicrhau bod pob claf canser
yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn
rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.
d) sefydlu gwasanaeth trin
canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd
am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi.
e) sefydlu ymgyrch addysg
gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i
ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/03/2016
Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad