Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
17.19
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5954
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru
2.
Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad gyda Chymru'n croesawu'r Gemau
hynny yn 2026 neu 2030.
3.
Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i Gymru, ar gyfer dynion a
menywod.
4.
Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i ffarwelio â thîm
pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr UEFA.
5.
Yn galw am sefydlu 'parthau cefnogwyr' ledled Cymru fel bod y rhai na allant
fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi eu tîm gartref.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad