Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.52
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5952
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli manyleb a phroses gaffael
masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
2.
Yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai gwasanaethau o'r
fasnachfraint honno cyn ei datganoli.
3.
Yn nodi nad yw cyfyngiad o'r fath yn gymwys, ac ni fu'n gymwys, i'r
fasnachfraint rheilffyrdd yn yr Alban.
4.
Yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau masnachfraint Cymru a'r Gororau yn
sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli swyddogaethau trafnidiaeth ac yn
niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
16 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad