Manylion y penderfyniad
Discussion of the Active Travel (Wales) Act 2013 Draft Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth,
a gyflwynwyd gan Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Yn
dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, fe wnaeth y Prif
Weinidog awdurdodi John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, fel
yr Aelod newydd sy'n gyfrifol am y Bil, o 18 Mawrth 2013. Mae’r Pwyllgor Busnes
wedi anfon y Bil at y Pwyllgor
Menter a Busnes.
Ynglŷn â’r Bil
Mae Bil Teithio
Llesol (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wella cyfleusterau a
llwybrau i gerddwyr a beicwyr yn barhaus, a pharatoi mapiau sy’n nodi’r llwybrau
presennol a’r llwybrau posibl y gallant eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd y Bil
hefyd yn nodi bod angen i gynlluniau ffyrdd newydd ystyried anghenion cerddwyr
a beicwyr yn eu camau dylunio.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru
(gwefan allanol) ar 4 Tachwedd 2013.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol
Cymru
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth gyswllt:
Clerc: Sarah Beasley
Ffôn: 029 2089 8032
Cyfeiriad Postio:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
E-Bost: Pwllygor.Menter@cymru.gov.uk
Penderfyniadau:
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad Drafft ar Ddeddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013
Dyddiad cyhoeddi: 09/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/02/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig