Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5939 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda
gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;
2. Yn nodi cynllun economaidd tymor hir Plaid Cymru
fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy sy'n cynnwys sefydlu corff masnach
newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn seilwaith cenedlaethol; a
3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar
gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod gweinyddiaethau olynol
Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi â methu mynd i'r afael â chau'r bwlch ffyniant
yn effeithiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
32 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth
economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r
afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi
ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
20 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y bydd y polisïau a nodir yn 'Cyrchfan
Cymru', 'Buddsoddi Cymru' a 'Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru' yn
cyflawni datblygiad economaidd a chymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus a
chynaliadwy i'r diwydiant dur, ei bod yn ofynnol bod:
a) yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau i fynd i'r
afael â dympio dur gan Tsieina;
b) Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd camau i fynd
i'r afael phrisiau ynni uchel a etifeddwyd gan y blaid Lafur;
c) Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhyddhad ardrethi
busnes;
d) lleiafswm o ran y safonau sy'n ofynnol ar gyfer
dur o fewn prosesau caffael y sector cyhoeddus;
e) pecyn o gefnogaeth i staff y disgwylir iddynt
golli eu swyddi.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:
'ac yn galw am ddileu ardrethi busnes ar offer a
pheiriannau a sefydlu cwmni adfywio trefol i Bort Talbot.'
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5939 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda
gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;
2. Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth
economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r
afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi
ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru; a
3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar
gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
11 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2016
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad