Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5890 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi
gogledd Cymru;
2. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu gogledd Cymru
fel pwerdy economaidd ochr yn ochr â phwerdy gogledd Lloegr a gan gydweithio
gydag ef er mwyn hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol;
3. Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddiad seilwaith i
hyrwyddo'r economi, yn galw am raglen barhaus o welliannau i goridor yr A55 ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi trydaneiddio rheilffordd
arfordir gogledd Cymru; a
4. Yn credu bod yn rhaid i fasnachfraint
ddatganoledig nesaf Cymru barhau i gynnwys llwybrau i ogledd-orllewin Lloegr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad