Manylion y penderfyniad

Debate on Affordable Housing Targets

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5884 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd diweddaraf tuag at gyflawni targed uwch Llywodraeth Cymru o 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad hwn, a bod 91 y cant o'r targed hwn wedi'i gyflawni.

Yr ystadegau diweddaraf ar y ddarpariaeth o dai fforddiadwy yng Nghymru 2014-15 (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r angen i ddod ag argyfwng tai Cymru i ben ac yn gresynu at y ffaith nad oes unrhyw gysylltiad rhwng targed tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru a nifer y bobl sydd angen tai.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

33

48

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith ymchwil yr Athro Holmans sy'n nodi os bwriedir cwrdd â'r angen a'r galw am dai yng Nghymru yn y dyfodol, mae angen dychwelyd i gyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron 20 mlynedd a chynnydd yng nghyfradd twf tai fforddiadwy.

Adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru - 'Future Need and Demand for Housing in Wales' (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid dyblu'r targed ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

33

49

Gwrthodwyd Gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5884 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd diweddaraf tuag at gyflawni targed uwch Llywodraeth Cymru o 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad hwn, a bod 91 y cant o'r targed hwn wedi'i gyflawni.

2. Yn nodi gwaith ymchwil yr Athro Holmans sy'n nodi os bwriedir cwrdd â'r angen a'r galw am dai yng Nghymru yn y dyfodol, mae angen dychwelyd i gyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron 20 mlynedd a chynnydd yng nghyfradd twf tai fforddiadwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/11/2015

Dyddiad y penderfyniad: 24/11/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad