Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5877 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu ailosod y system
Trident bresennol gan Lywodraeth y DU; a
2. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â
diarfogi niwclear ledled y byd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
pob dim a rhoi yn ei le:
Yn
cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd, ond
yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
24 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gan
fod Gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5877 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi
niwclear ledled y byd, ond yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
10 |
1 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 18/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad