Manylion y penderfyniad

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Rheol Seydlog 17.3:

Rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno aelodaeth a chadeirydd pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.09

NDM5879 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

(i) Lindsay Whittle (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Jocelyn Davies (Plaid Cymru);

(ii) Bethan Jenkins (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru).

NDM5880 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru).

NDM5886 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol John Griffiths (Llafur) fel eilydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Ann Jones (Llafur).

Derbyniwyd y Cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2015

Dyddiad y penderfyniad: 18/11/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad