Manylion y penderfyniad
Debate on the Equality and Human Rights Commission Wales Annual Review 2014 - 2015
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio
dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais
i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio
dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.
2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais
i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 03/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad