Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5826 Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd y
Rhaglen Cefnogi Pobl, sy'n cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i bobl fregus fyw'n
annibynnol yn eu cymunedau ac i roi terfyn ar allgáu cymdeithasol.
2. Yn nodi bod y rhaglen wedi
cynorthwyo dros 60,000 o bobl yng Nghymru y llynedd, gan gynnwys pobl
ddigartref, pobl mewn perygl o drais yn y cartref, pobl hŷn, pobl anabl
neu bobl sydd ag anghenion cymhleth.
3. Yn nodi y torrwyd cyllid y
Rhaglen Cefnogi Pobl 8.3 y cant mewn termau real rhwng 2014-15 a 2015-16.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) adolygu gofynion gweinyddu
a monitro'r Rhaglen Cefnogi Pobl i sicrhau bod cyllid yn cael ei flaenoriaethu
ar gyfer darpariaeth rheng flaen; a
b) amddiffyn y Grant Cefnogi
Pobl o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y rhaglen Cefnogi Pobl
yn lleihau pwysau diangen ar wasanaethau statudol megis iechyd a gwasanaethau
cymdeithasol ac yr amcangyfrifir y gall pob £1 a fuddsoddir yn y rhaglen hon
arbed hyd at £2.30 i bwrs y wlad.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5826 Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd y Rhaglen
Cefnogi Pobl, sy'n cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i bobl fregus fyw'n annibynnol
yn eu cymunedau ac i roi terfyn ar allgáu cymdeithasol.
2. Yn nodi bod y rhaglen wedi
cynorthwyo dros 60,000 o bobl yng Nghymru y llynedd, gan gynnwys pobl ddigartref,
pobl mewn perygl o drais yn y cartref, pobl hŷn, pobl anabl neu bobl sydd
ag anghenion cymhleth.
3. Yn nodi y torrwyd cyllid y
Rhaglen Cefnogi Pobl 8.3 y cant mewn termau real rhwng 2014-15 a 2015-16.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu gofynion gweinyddu
a monitro'r Rhaglen Cefnogi Pobl i sicrhau bod cyllid yn cael ei flaenoriaethu
ar gyfer darpariaeth rheng flaen; a
b) amddiffyn y Grant Cefnogi
Pobl o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.
5. Yn nodi bod y rhaglen Cefnogi
Pobl yn lleihau pwysau diangen ar wasanaethau statudol megis iechyd a
gwasanaethau cymdeithasol ac yr amcangyfrifir y gall pob £1 a fuddsoddir yn y
rhaglen hon arbed hyd at £2.30 i bwrs y wlad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2015
Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad