Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 15.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5827 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi cyfryngau cryf
fel elfen annatod o ddemocratiaeth rydd a llawn weithredol yng Nghymru;
2. Yn cydnabod effaith sylweddol
y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol ar economi Cymru;
3. Yn pryderu am gynigion
presennol Llywodraeth y DU ar gyfer y BBC cyn adnewyddu ei siarter yn 2016,
gyda golwg arbennig ar ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg a BBC Cymru ac S4C
cryf;
4. Yn galw ar ei bwyllgorau i
ymchwilio i newidiadau sylfaenol i'r diwydiant cyfryngau er mwyn cefnogi ei
swyddogaethau democrataidd yng Nghymru a gweithredu'r newidiadau hynny; a
5. Yn ailsefydlu is-bwyllgor
darlledu er mwyn ffurfio barn a safbwynt ar adnewyddu siarter y BBC cyn gynted
ag y bo modd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
41 |
51 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth
olygyddol S4C.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r ffaith bod y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal
ymchwiliad i'r adolygiad o siarter y BBC.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
10 |
51 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5827 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi cyfryngau cryf
fel elfen annatod o ddemocratiaeth rydd a llawn weithredol yng Nghymru;
2. Yn cydnabod effaith
sylweddol y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol ar economi Cymru;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau
sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol S4C.
4. Yn pryderu am gynigion
presennol Llywodraeth y DU ar gyfer y BBC cyn adnewyddu ei siarter yn 2016,
gyda golwg arbennig ar ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg a BBC Cymru ac S4C
cryf;
5. Yn galw ar ei bwyllgorau i
ymchwilio i newidiadau sylfaenol i'r diwydiant cyfryngau er mwyn cefnogi ei
swyddogaethau democrataidd yng Nghymru a gweithredu'r newidiadau hynny; a
6. Yn croesawu'r ffaith bod y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal
ymchwiliad i'r adolygiad o siarter y BBC.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2015
Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad