Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.58
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5822 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant bloc
sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei
fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
11 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd
buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal
cleifion a recriwtio a chadw staff.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar gyfer
buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi
yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5822 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant
bloc sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei
fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd
buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal
cleifion a recriwtio a chadw staff.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar
gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer
buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
11 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 17/09/2015
Dyddiad y penderfyniad: 16/09/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad