Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5817
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau
cig coch a llaeth yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y dirywiad ym mhris wrth gât y fferm
llaeth a chig oen.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio'r
ardoll cig coch.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio'r Rhaglen Datblygu Gwledig i ddarparu
cefnogaeth ar unwaith i'r sectorau a'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf;
b) amddiffyn ffermwyr Cymru rhag anwadalrwydd y
marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig;
c) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o
gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch decach; a
d) gweithio tuag at
gynnal blwyddyn genedlaethol bwyd a diod Cymru fel canolbwynt ar gyfer hyrwyddo
cynnyrch Cymreig ar lefel ddomestig a rhyngwladol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 15/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad