Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu y dylai'r system addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella safonau addysg;

 

2. Yn galw am godi safonau proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr a gwella datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan; a

 

3. Yn galw am ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

44

53

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y gall corff cofrestru proffesiynol helpu gyda gwelliant parhaus staff a myfyrwyr addysgu ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn sicrhau ei fod yn atebol fel sy'n briodol.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ym mhwynt 2, dileu pob dim ar ôl 'Meistr' a rhoi yn ei le:

 

'ac yn galw am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan, ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a'


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru cyn belled â bod digon o adnoddau'n cael eu trosglwyddo.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

21

52

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Derbyniwyd gwelliant 3, felly cafodd gwelliant 4  ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r system addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella safonau addysg;

 

2. Yn galw am godi safonau proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr ac yn galw am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan, ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a

 

3. Yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru cyn belled â bod digon o adnoddau'n cael eu trosglwyddo.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

12

53

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 02/07/2015

Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad