Manylion y penderfyniad
Dadl ar Araith y Frenhines
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15
(i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn
digwydd ar ôl y ddadl.
NDM5792 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU
2015/2016.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig yn
gweithredu yn llawn argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithredu’r argymhellion llawn heb oedi.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder ddychweliad y Bil Pwerau Ymchwilio,
ffurf newydd ar y siarter fusnesu, fel y'i gelwir, a gafodd ei rwystro'n
rheolaidd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod Llywodraeth Glymblaid y DU;
ac yn gwrthwynebu Llywodraeth y DU yn cael pwerau i fonitro data cyfathrebu
unigolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
32 |
44 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Gwelliant
3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig
Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael
i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion
i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
10 |
44 |
Derbyniwyd Gwelliant 4.
Gwelliant
5 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod
cymal mwyafrif dwbl ym Mil Refferendwm yr UE a'r penderfyniad i atal pobl 16 a
17 oed rhag pleidleisio yn y refferendwm hwnnw.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
22 |
13 |
44 |
Gwrthodwyd Gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5792
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y
DU 2015/2016.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw'r Bil Cymru arfaethedig
yn gweithredu yn llawn argymhellion y Comisiwn Silk trawsbleidiol ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithredu’r argymhellion llawn heb oedi.
3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig
Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael
i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
4. Yn gresynu at fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno
cynigion i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
31 |
3 |
10 |
44 |
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 24/06/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad