Manylion y penderfyniad

Motions to elect Members to committees

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Rheol Seydlog 17.3:

Rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno aelodaeth a chadeirydd pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.37

NDM5774 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru).

NDM5775 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Altaf Hussain (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Janet Finch Saunders (Ceidwadwyr).

NDM5776 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle William Graham (Ceidwadwyr).

NDM5777 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Janet Haworth (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

NDM5778 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mohammad Asghar (Ceidwadwyr) yn aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Dyddiad cyhoeddi: 03/06/2015

Dyddiad y penderfyniad: 02/06/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad