Manylion y penderfyniad
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i
ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel.
Nod cyffredinol yr ymchwiliad oedd:
Adolygu effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â’r
bwlch a welir yng nghanlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel ym mhob
cyfnod allweddol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.27
NDM5764 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o
Gartrefi Incwm Isel, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2015.
Derbyniwyd
y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2015
Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad