Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 – 5, 7 a 9 - 11. Tynnwyd cwestiynau 6 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 3, 4, 9, 10 ac 11 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Ar ôl cwestiwn 10 croesawodd y Llywydd ddirprwyaeth o Senedd Gwlad yr Iorddonen, a oedd yn yr Oriel Gyhoeddus.

Dyddiad cyhoeddi: 01/06/2015

Dyddiad y penderfyniad: 13/05/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: