Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.49
Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5751 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai plismona adlewyrchu
anghenion pobl Cymru.
2. Yn credu bod heddluoedd Cymru wedi cael
eu gwleidyddoli drwy sefydlu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu etholedig.
3. Yn galw am ddileu'r Comisiynwyr Heddlu a
Throseddu cyn gynted â phosibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
8 |
33 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 07/05/2015
Dyddiad y penderfyniad: 06/05/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad