Manylion y penderfyniad
Dadl ar Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM3739
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod gwasanaeth clinigol newydd yn cael ei gyflwyno i
Gymru, sef Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys, a
b) bod y gwasanaeth yn sicrhau y caiff cleifion mewn
ardaloedd anghysbell a gwledig fynediad cyflym i ymgynghorydd mewn meddygaeth
gofal dwys neu ofal brys.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Yn is-bwynt b), dileu 'cyflym' a rhoi 'gwell' yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant
2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod mynediad at wasanaethau brys
yng Nghymru wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i israddio
ysbytai, perfformiad gwasanaeth ambiwlans gwael a'r toriadau mwyaf erioed i
gyllideb y GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
29 |
46 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant
3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at fethiant parhaus y gwasanaeth ambiwlans i
gyrraedd ei dargedau ar gyfer amseroedd ymateb a'r effaith y mae hyn wedi'i
chael ar wasanaethau brys yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa gofal
canolraddol i atal galwadau diangen ar y system gofal brys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant
5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU
ar gyfer 2015 y bydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cyllid gwerth
£1.5 miliwn o ddirwyon LIBOR i helpu i ariannu cyfarpar newydd a hyfforddiant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
8 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sefydlu Canolfan Gofal Brys yn Sir Drefaldwyn i ddod â gofal yn
nes at ein cymunedau a lleihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys
yn Wrecsam a'r Amwythig, oherwydd y nifer cynyddol o gleifion sy'n teithio'n
bell i gael mynediad at ofal o ganlyniad i ddiffyg cynllunio cydgysylltiedig
rhwng byrddau iechyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
8 |
25 |
46 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw am fwy o fuddsoddi mewn
ysbytai bwthyn a gofal yn y gymuned, i helpu i sicrhau gofal o ansawdd uchel yn
y gymuned er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM3739
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod gwasanaeth clinigol newydd yn cael ei gyflwyno i
Gymru, sef Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys,
b) bod y gwasanaeth yn sicrhau y caiff cleifion mewn
ardaloedd anghysbell a gwledig fynediad cyflym i ymgynghorydd mewn meddygaeth
gofal dwys neu ofal brys,
c) yn gresynu at fethiant parhaus y gwasanaeth ambiwlans
i gyrraedd ei dargedau ar gyfer amseroedd ymateb a'r effaith y mae hyn wedi'i
chael ar wasanaethau brys yng Nghymru,
d) yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa gofal
canolraddol i atal galwadau diangen ar y system gofal brys,
e) yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y
DU ar gyfer 2015 y bydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cyllid
gwerth £1.5 miliwn o ddirwyon LIBOR i helpu i ariannu cyfarpar newydd a
hyfforddiant; ac
f) yn galw am fwy o fuddsoddi mewn ysbytai bwthyn a gofal
yn y gymuned, i helpu i sicrhau gofal o ansawdd uchel yn y gymuned er mwyn
lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 22/04/2015
Dyddiad y penderfyniad: 21/04/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad