Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5733
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu adleoli system arfau niwclear y DU i
Gymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau yn
nodi hyn i Lywodraeth y DU;
3. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu newid y system Trident
bresennol gan Lywodraeth y DU; a
4. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â
diarfogi niwclear ledled y byd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi
yn ei le:
Yn nodi nad oes
gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac
yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd
gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
13 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5733
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi nad oes
gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac
yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad