Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

 

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 7 eu grwpio. Atebwyd cwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2015

Dyddiad y penderfyniad: 18/03/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad