Manylion y penderfyniad
Debate on The Care and Social Service Inspectorate Wales (CSSIW) Annual Report 2013 - 2014
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.46
NDM5720
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda'r sector a chymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Derbyniwyd Gwelliant 1 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
mynegi pryder ynglŷn ag amrywioldeb perfformiad adrannau gwasanaethau
cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru.
Derbyniwyd Gwelliant 2 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gwelliant 3 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi pwysigrwydd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn helpu i wella
safonau gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Derbyniwyd Gwelliant 3 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gwelliant 4 – Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut y mae cartrefi gofal yn gweithio gyda
byrddau iechyd lleol i atal derbyniadau diangen i ysbytai.
Derbyniwyd Gwelliant 4 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5720
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14.
2.
Yn nodi'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda'r sector a chymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn.
3.
Yn mynegi pryder ynglŷn ag amrywioldeb perfformiad adrannau gwasanaethau
cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru.
4.
Yn nodi pwysigrwydd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn helpu i wella
safonau gwasanaethau gofal cymdeithasol.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut y mae cartrefi gofal yn gweithio gyda
byrddau iechyd lleol i atal derbyniadau diangen i ysbytai.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Dyddiad cyhoeddi: 18/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 17/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad