Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5718 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:

a) bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn hanes;

b) bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a'r rhew wedi lleihau, a lefel y môr wedi codi; a

c) y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y degawdau nesaf leihau risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt, cynyddu rhagolygon ar gyfer addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru yn y tymor hwy, a chyfrannu at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

40

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2 a rhoi'r canlynol yn ei le:

Yn edrych ymlaen at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

15

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5718 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:

a) bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn hanes;

b) bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a'r rhew wedi lleihau, a lefel y môr wedi codi; a

c) y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y degawdau nesaf leihau risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt, cynyddu rhagolygon ar gyfer addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru yn y tymor hwy, a chyfrannu at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd.

2. Yn edrych ymlaen at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 12/03/2015

Dyddiad y penderfyniad: 11/03/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad