Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5717 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru o ran gwella'r amodau ar gyfer twf
economaidd yng Nghymru;
2.
Yn cydnabod cyfraniad sylweddol busnesau gwledig i economi Cymru, ond yn nodi'r
potensial ar gyfer mwy o dwf; a
3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled Cymru drwy:
a)
gwella isadeiledd, cysylltedd a sgiliau ledled Cymru;
b)
gwella rôl awdurdodau lleol o ran eu cyfraniad at dwf economaidd;
c)
gwella mynediad at gyllid i bob busnes yng Nghymru; a
d)
cynyddu'r gyfradd eithrio ar gyfer pob eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o
lai na £12,000.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
– Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Yn
is-bwynt 3c), ar ôl 'yng Nghymru', mewnosod 'drwy greu Banc Datblygu Cymru i
weithredu fel 'siop un stop' ar gyfer cyngor busnes a mynediad at gyllid a man
galw cyntaf ar gyfer busnesau'
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
9 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2
– Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu
is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le:
galluogi
cadw trethi busnes yn lleol er mwyn cymell twf economaidd lleol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
20 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 4
– Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cefnogi
trefi marchnad Cymru, canolfannau traddodiadol ein cymunedau, a'r seilwaith
sylfaenol o'u cwmpas.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
9 |
0 |
48 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cynyddu'r gyfran o gontractau caffael y sector
cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymreig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5717 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru o ran gwella'r amodau ar gyfer twf
economaidd yng Nghymru;
2.
Yn cydnabod cyfraniad sylweddol busnesau gwledig i economi Cymru, ond yn nodi'r
potensial ar gyfer mwy o dwf; a
3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled Cymru drwy:
a)
gwella isadeiledd, cysylltedd a sgiliau ledled Cymru;
b)
gwella rôl awdurdodau lleol o ran eu cyfraniad at dwf economaidd;
c)
gwella mynediad at gyllid i bob busnes yng Nghymru;
d)
galluogi cadw trethi busnes yn lleol er mwyn cymell twf economaidd lleol;
e)
cefnogi trefi marchnad Cymru, canolfannau traddodiadol ein cymunedau, a'r
seilwaith sylfaenol o'u cwmpas;
f) cynyddu'r gyfran o gontractau caffael y sector
cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymreig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 11/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad