Manylion y penderfyniad

Debate on the Environment and Sustainability Committee's report on its inquiry into recycling in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i Ailgylchu yng Nghymru.

   

Diben yr ymchwiliad hwn oedd i edrych yn fanwl ar arferion a threfniadau ailgylchu gwastraff tai awdurdodau lleol drwy Gymru.  Edrychodd yr ymchwiliad ar yr holl ddeunyddiau gwastraff, gan gynnwys gwastraff bwyd a gwastraff o’r ardd.

 

Cylch gorchwyl

 

  • Ymchwilio i’r rhesymau dros yr amrywiadau mewn arferion ailgylchu gwastraff tai awdurdodau lleol yng Nghymru, ac effeithiau’r amrywiadau hyn.
  • I ba raddau y mae arferion ailgylchu awdurdodau lleol yn gydnaws â phatrwm casgliadau Cynllun Sector Gwastraff Trefol Llywodraeth Cymru, ac edrych beth yw’r rhwystrau a’r hwyluswyr i ymlynu. 
  • Asesu a yw gwybodaeth ac arweiniad ar gael i ddeiliaid tai ynglŷn â pham a sut y dylent fod yn ailgylchu, ac edrych ar beth yw’r rhwystrau posibl, a beth yw’r hwyluswyr i wella cyfraddau ailgylchu.
  • Ymchwilio i ymateb awdurdodau lleol i’r Trywydd Rheoliadau Gwastraff a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac effeithiau a goblygiadau posibl hwn ar arferion ailgylchu ledled Cymru.
  • Cael gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng arferion casglu deunydd ailgylchu a chyfraddau ailgylchu.

 

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

I gael darllen hanes yr ymchwiliad cliciwch ar y ddolen isod i weld yr erthygl Storify:

 

https://storify.com/assemblywales/ymchwiliad-i-ailgylchu-yng-nghymru-ailgylchucymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

 

NDM5716 Alun Ffred Jones (Arfon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Ailgylchu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2015.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/03/2015

Dyddiad y penderfyniad: 11/03/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad