Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.45
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod yn is nag unrhyw ran arall
o'r DU;
2. Yn
gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni cydraddoldeb o
ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei daliadaeth;
3. Yn
galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid ar gyfer Cymru a'r Alban;
4. Yn
galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd;
5. Yn
nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r cyfrifoldeb dros adnoddau
naturiol Cymru yn llawn;
6. Yn
galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a datganoli plismona,
carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a
7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y grym i gefnogi'r
rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol mewn perthynas â
budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r Alban.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
35 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn
croesawu'r camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad
datganoli i Gymru ers 2010, gan gynnwys:
a)
refferendwm ar bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b)
sefydlu Comisiwn Silk;
c)
cyflwyno Deddf Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a
threth tirlenwi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm
ar a ddylid datganoli elfen o dreth incwm.
2. Yn
croesawu'r cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi sy'n cynnig:
a)
datganoli'r cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau
ynni hyd at 350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru;
b)
datganoli terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r
Comisiynydd Traffig;
c)
cyflwyno model cadw pwerau;
d)
datganoli datblygu porthladdoedd;
e)
datganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth
leol;
f)
datganoli cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector
cyhoeddus datganoledig; a
g)
datganoli trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru
3. Yn
credu bod yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw
am:
a)
datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i
Gymru;
b)
datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau deddfwriaethol
i Gymru;
c)
datganoli cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru;
d)
datganoli terfynau yfed a gyrru;
e)
datganoli'r cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad;
f)
datganoli cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor
hwy;
g)
trosglwyddo pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron;
h)
trosglwyddo rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a
phobl anabl;
i)
datganoli pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol
a lleol Cymru;
j)
rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a
k)
rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio materion sy'n effeithio ar
blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru.
4. Yn
galw am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar
gyfer undeb newydd.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
41 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi
cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014,
sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;
2. Yn
nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein
cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;
3. Yn
cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd
arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i
Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;
4. Yn
croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad
cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni
cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o
atal rhagor o gydgyfeirio.
5. Yn
mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a
argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a
6. Yn
galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn
Etholiad Cyffredinol y DU.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
18 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)
1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22
Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng
Nghymru;
2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n
amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;
3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y
cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw
pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau
naturiol ac etholiadau;
4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael
setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i
fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull
penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio.
5. Yn mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a
argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a
6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n
weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
9 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 05/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad