Manylion y penderfyniad
Debate on the Health and Social Care Committee's report on its inquiry into access to medical technologies in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i fynediad at dechnolegau
meddygol yng Nghymru.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i:
- archwilio sut y mae'r GIG yn asesu manteision posibl unrhyw
dechnolegau meddygol newydd neu amgen;
- archwilio'r angen i fabwysiadu dulliau mwy cydgysylltiedig o gomisiynu
yn y maes hwn, a pha mor ymarferol fyddai gwneud hynny;
- archwilio sut y mae GIG Cymru yn ymwneud â'r rhai sydd ynghlwm wrth y
gwaith o ddatblygu / cynhyrchu technolegau meddygol newydd;
- archwilio'r ffactorau ariannol a all fod yn rhwystr i'r broses o
fabwysiadu technolegau meddygol newydd effeithiol, a dulliau arloesol o
oresgyn y rhwystrau hyn.
Seiliwyd y cylch gorchwyl hwn ar broses ymgynghori a gynhaliodd y
Pwyllgor yn hydref 2012 ynghylch cwmpas yr ymchwiliad hwn. Sylwch nad oedd y Pwyllgor yn bwriadu
trafod mynediad i feddyginiaethau fel rhan o'r ymchwiliad hwn, dim ond
technolegau meddygol.
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad
(PDF, 956KB) ym mis Rhagfyr 2014. Ymatebodd
(PDF, 103KB) Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2015.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar yr
ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru ar 25
Chwefror 2015.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 15.17
NDM5700 David Rees (Aberafan)
Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 26/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad