Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4818 Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at ddiffyg
manylion a thargedau ystyrlon yn y Rhaglen
Lywodraethu: a
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Rhaglen yn canolbwyntio
ar y sialensiau y bydd yr economi
yn eu hwynebu
dros yr ychydig
flynyddoedd nesaf.
Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc
a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/?skip=1&lang=cy
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1) a rhoi
yn ei le:
"Yn nodi’r
Rhaglen Lywodraethu a’r angen i allu mesur sut y gweithredir polisi’r
Llywodraeth”; a
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu fel pwynt
1 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael â’r
sialensiau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu pobl Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni addewid
y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen
lywodraethu sydd â thargedau mesuradwy.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno rhaglen lywodraethu ddiwygiedig sydd â thargedau pendant a mesuradwy ac amserlen ar gyfer eu
cyflawni.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ailgyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu er mwyn cynnwys
targedau a chanlyniadau mesuradwy.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth
Cymru i bennu, yn y Rhaglen Lywodraethu,
fesurau i godi perfformiad Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru erbyn 2015.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn credu y dylai’r Rhaglen Lywodraethu gynnwys rhaglen gynhwysfawr o ryddhad ardrethi busnes sef yr
ymyriad polisi gorau i hybu cyflogaeth
a buddsoddiad yn y sector preifat ac y gellid cyflwyno ymyriad o’r fath ar
unwaith heb yr angen am adolygiad
pellach.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
5 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthhod y gwelliannau i’r cynnig, nid
yw’r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2011
Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad