Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion on the Serious Crime Bill (Memorandum No. 2)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd
Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.40
NDM5673 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag
ymddygiad cyfyngol neu orthrechol mewn perthnasoedd personol neu deuluol, i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 29/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad