Manylion y penderfyniad
Debate: The Older People's Commissioner for Wales' Annual Report 2013-14
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.32
NDM5672 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn
ar gyfer 2013/14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r cynnydd yng nghyfran gwaith achos y Comisiynydd Pobl Hŷn sy'n ymwneud â gofal iechyd.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2
- Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod yr Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad yn nodi
bod tri awdurdod lleol yn methu â chyrraedd eu hamserlenni statudol ar gyfer
darparu grantiau cyfleusterau i'r anabl.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3
- Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn mewn perthynas â datblygu'r Datganiad Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5672 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl
Hŷn ar gyfer 2013/14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015.
2.Yn nodi'r cynnydd yng nghyfran gwaith achos y Comisiynydd Pobl Hŷn sy'n ymwneud â gofal iechyd.
3.Yn gresynu at y ffaith bod yr Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad yn nodi
bod tri awdurdod lleol yn methu â chyrraedd eu hamserlenni statudol ar gyfer
darparu grantiau cyfleusterau i'r anabl.
4.Yn croesawu gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn mewn perthynas â datblygu'r Datganiad Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad