Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5671 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd y diwydiant
amaeth i economi, amgylchedd a chymunedau Cymru;
b) yr argyfwng yn y sector
llaeth sy'n deillio o ostyngiad yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr ac
ansefydlogrwydd y gadwyn laeth;
c) yr ansicrwydd o ran y
taliad sylfaenol sy'n deillio o ddiddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y
Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru)
2014 yn dilyn her barnwrol;
d) y bleidlais yn Senedd Ewrop
i roi'r pŵer i aelod-wladwriaethau i awdurdodi cnydau GM i
aelod-wladwriaethau, a'r ffaith mai Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud
y penderfyniad yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) gweithio gyda'r gadwyn
laeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu'n benodol i sicrhau
cynaliadwyedd hyfyw y cynhyrchwyr llaeth;
b) sicrhau adnoddau digonol ac
amserlen gyraeddadwy i ddiogelu talu'r taliad sylfaenol ar 1 Rhagfyr 2015; ac
c) ail-ddatgan ei bwriad i
gadw Cymru yn ddi-GM.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 22/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 21/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad