Manylion y penderfyniad

Legislative Consent Motion on the Small Business, Enterprise and Employment Bill - public sector exit payments (Supplementary Legislative Consent Memorandum - Memorandum No. 3)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Gofynnodd Llywodraeth Cymru am ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai fel arfer fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.32

 

NDM5656 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â thaliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 14/01/2015

Dyddiad y penderfyniad: 13/01/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad