Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4812 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn credu bod Cymru’n
cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth; ac
2) Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd
Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
45 |
57 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2,
dileu “wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli
gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth” ac yn ei le rhoi “gefnogi
Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau i gynllunio a
darparu gwasanaethau mewn modd priodol.”
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
23 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 -
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod cleifion
yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl at
gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith o
ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
2 |
0 |
57 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r
Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion Ysbytai
Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
6 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn credu bod
Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol
Dosbarth; ac
2) Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu
cyfrifoldebau i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd priodol.
3) Yn credu bod
cleifion yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl
at gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith
o ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.
4) Yn credu y
dylai’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion
Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
23 |
57 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/09/2011
Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad