Manylion y penderfyniad
Debate: The Final Budget 2015-16
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb
Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol.
Gweithiodd hefyd
gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios
Gweinidogol penodol wedi cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliwyd y pwyllgor
sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn
archwilio i’r agweddau ar y gyllideb daeth o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac
wedyn yn adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Cynhaliodd y
pwyllgor ymgynghoriad ar
gynigion cyllideb ddrafft y llywodraeth rhwng Gorffennaf 2014 i Fedi 2014.
Isod ceir
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft, ynghyd â gohebiaeth
berthnasol i’w waith craffu.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5651 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo'r Gyllideb
Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-2016 a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 2 Rhagfyr 2014.
Troednodyn:
Yn unol â darpariaethau
perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb
Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
1. y datganiad ysgrifenedig
sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
2. yr adnoddau y cytunodd y
Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r
cynnig yn ymwneud â hi;
3. cysoni rhwng yr adnoddau a
ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi
i'w defnyddio yn y cynnig;
4. cysoni rhwng yr amcangyfrif
o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r
symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a
5. cysoni rhwng yr adnoddau
i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi
ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Darparwyd yr wybodaeth atodol
ganlynol i'r Aelodau:
Nodyn Esboniadol ar y
newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
4 |
22 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/12/2014
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad