Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion on the Modern Slavery Bill - provisions relating to child trafficking advocates, guidance about identifying and supporting victims and presumption of age
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd
Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.48
NDM5645 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caethwasiaeth Fodern sy'n ymwneud ag
eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ynghylch adnabod a chefnogi dioddefwyr a
rhagdybio oedran, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 10/12/2014
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad