Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.  Trosglwyddwyd cwestiwn 4 i’w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.  Trosglwyddwyd cwestiwn 8 i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Prif Weinidog.

Dyddiad cyhoeddi: 29/09/2011

Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad