Manylion y penderfyniad
Debate on Public Services Reform
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
NDM4807 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda ar gyfer diwygio
gwasanaethau cyhoeddus.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu “Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda”
a rhoi yn ei le
“Yn nodi agenda Llywodraeth Cymru”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder cyhoeddiadau blaenorol Llywodraeth Cymru
am ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddadansoddiad wedi’i gostio’n llawn o agenda Llywodraeth Cymru
ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn modd
sy’n dod â’r trydydd sector annibynnol a’r sector cyhoeddus ynghyd, gyda’r
dinesydd a’r gymuned yn y canol, gan ymateb i anghenion y cyhoedd a gan
leihau'r galw ar wasanaethau eraill drwy ddull gweithredu sy'n edrych ar y
gwasanaeth cyfan a chyd-gynhyrchu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau
cyhoeddus gael ffocws clir ar leihau’r bwlch gwariant ar ysgolion rhwng Cymru a
Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
11 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder ddull gweithredu anghyson Llywodraeth Cymru o ran
cydweithio wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau
cyhoeddus wedi cael ei gwneud yn glir ac yn credu y dylai ganolbwyntio ar
ganlyniadau yn hytrach nag ar y broses o ddiwygio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cyllid teg er mwyn gallu darparu
gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4807 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda ar gyfer diwygio
gwasanaethau cyhoeddus.
Yn galw am ddadansoddiad wedi’i gostio’n llawn o agenda Llywodraeth Cymru
ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn modd
sy’n dod â’r trydydd sector annibynnol a’r sector cyhoeddus ynghyd, gyda’r
dinesydd a’r gymuned yn y canol, gan ymateb i anghenion y cyhoedd a gan leihau'r
galw ar wasanaethau eraill drwy ddull gweithredu sy'n edrych ar y gwasanaeth
cyfan a chyd-gynhyrchu.
Yn credu y dylai agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau
cyhoeddus gael ffocws clir ar leihau’r bwlch gwariant ar ysgolion rhwng Cymru a
Lloegr.
Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cyllid teg er mwyn gallu darparu
gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 28/09/2011
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad