Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5622
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o
uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer
cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun
gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan
Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid
cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i
hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
14 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad
â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei
chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff
cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried
pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle
mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael
eu rheoleiddio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5622
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o uchel
ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer cymunedau
gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.
3. Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd
gan Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid
cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i
hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu
i liniaru costau cyfleustodau uchel.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau
cysylltiad â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn
edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei
allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian
i ddefnyddwyr.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y
grid, lle mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw
marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
14 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad