Manylion y penderfyniad
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y
Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair
wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer
Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn
llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir
cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod
Llawn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Trosglwyddwyd cwestiwn 15 i’w
ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad