Manylion y penderfyniad
Inquiry into alcohol and substance misuse: consultation arrangements
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Cynhalioddd
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad
i gamddefnyddio alcohol a sylweddau.
Cylch
gorchwyl yr ymchwiliad oedd i drafod:
- effeithiau
camddefnyddio alcohol a sylweddau ar bobl yng Nghymru, gan gynnwys pobl
ifanc a myfyrwyr prifysgol; pobl hŷn; pobl ddigartref; a'r bobl yn
nalfa'r heddlu neu mewn carchardai;
- effeithiolrwydd
polisïau presennol Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â chamddefnyddio
alcohol a sylweddau ac unrhyw gamau pellach y gallai fod eu hangen;
- pa
wasanaethau sydd ar gael yn lleol ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o
effaith y niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a sylweddau a
chapasiti'r gwasanaethau hynny.
Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad.
Gwyliwch y
Cadeirydd, David Rees, yn siarad am
y gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad.
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i
gasglu tystiolaeth am y testun hwn.
Cyhoeddodd y Pwyllgor arolwg dienw a holiadur
ymgynghori i gasglu tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol a gan y cyhoedd. Mae crynodeb o’r ymatebion
wedi cyhoeddi.
Gweithgareddau ymgysylltu
Trafodion y grŵpiau cyfeirio
(PDF, 89KB) a ganhaliwyd ar 21 Ionawr, 2015
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn
dilyn y sesiwn tystiolaeth lafar ar 11 Mehefin 2015, ysgrifennodd y Pwyllgor at y
Dirprwy Gweinidog Iechyd (PDF, 345KB) am fwy o wybodaeth. Ymatebodd y Dirprwy Gweinidog
(PDF, 345KB) ar 1 Gorffennaf 2015.
Adroddiad y Pwyllgor
Darllenwch
adroddiad y Pwyllgor: adroddiad ar gamddefnyddio alcohol
a sylweddau, Awst 2015 (PDF, 865KB).
Darllenwch
crynodeb o brif ganfyddiadau’r adroddiad: crynodeb o’r adroddiad ar gamddefnyddio alcohol a
sylweddau.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru
(PDF, 241 KB) yn Hydref 2015.
Cymorth
a chefnogaeth
Os yw camddefnyddio alcohol neu sylweddau wedi cael
effaith arnoch chi neu ar rywun rydych yn ei adnabod, neu os hoffech ragor o
wybodaeth, gallwch gysylltu â DAN 24/7 i gael cyngor. Mae DAN 24/7 yn llinell
gymorth gyfrinachol sydd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru
sy'n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help mewn perthynas â chyffuriau neu
alcohol.
Rhadffôn: 0808 808 2234
neu anfonwch neges destun i DAN: 81066
Penderfyniadau:
7.1
Trafododd y Pwyllgor y trefniadau ar gyfer ymgynghoriad yr ymchwiliad i
gamddefnyddio alcohol a sylweddau, gan gytuno arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 18/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 12/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu