Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5606 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r amodau economaidd
sy'n gynyddol anodd i ffermwyr;
2. Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r
Polisi Amaethyddol Cyffredin.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cynyddu ei hymdrechion i
leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant;
b) cymryd camau ymarferol a
chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac
c) cyflwyno cynllun Ardaloedd
â Chyfyngiadau Naturiol i helpu'r rhai
sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
41 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a
ffermio ar y cyd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith nad oes Ardal â Chyfyngiadau
Naturiol benodedig yn rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig; penderfyniad sydd â'i
wreiddiau mewn dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru'n Un.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r
gyllideb Amaethyddiaeth a Bwyd o 17.8% a'r gyllideb Iechyd Anifeiliaid o 20.7%
yng Nghyllideb Ddrafft 2015-16.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
19 |
5 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer swydd benodol yn y
Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Amaethyddiaeth a Bwyd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi cod
ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd i neilltuo rhan amlwg o'u
harwynebedd llawr ar gyfer cig ansawdd uchel o Gymru sydd â statws Dynodiad
Daearyddol Gwarchodedig a chig Tractor Coch Prydeinig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai lleoli lladd-dy cig eidion a chig oen
yng ngogledd Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu cig coch yng ngogledd
Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r
wlad lle cafodd yr anifail ei eni.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch o'r
cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant
9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar gylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o'r
diwydiant llaeth yng Nghymru i gynnwys datblygu cynllun gweithredu strategol
cynhwysfawr i gefnogi'r diwydiant llaeth.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5606 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer
olyniaeth a ffermio ar y cyd.
2. Yn nodi'r amodau economaidd
sy'n gynyddol anodd i ffermwyr;
3. Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r
Polisi Amaethyddol Cyffredin.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cynyddu ei hymdrechion i
leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant;
b) cymryd camau ymarferol a
chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac
c) cyflwyno cynllun Ardaloedd
â Chyfyngiadau Naturiol i helpu'r rhai
sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r
wlad lle cafodd yr anifail ei eni.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch
o'r cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/10/2014
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad