Manylion y penderfyniad

Debate on the Environment and Sustainability Committee's Report on its Inquiry into Welsh Government Proposals for the M4 around Newport

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cefndir

 

Edrychodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 yn ardal Casnewydd.

 

Trafododd y Pwyllgor a oedd cynigion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r M4, a’r broses hyd y pwynt hwnnw, wedi taro cydbwysedd effeithiol rhwng anghenion a buddiannau economaidd ac amgylcheddol.

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan randdeiliaid ar 6 Tachwedd 2013 a chan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gynnar yn 2014.

 

Mae manylion cynigion Llywodraeth Cymru ar gael yn: http://www.m4newport.com/ (Saesneg yn unig)

 

 

Dilynwch yr ymchwiliad

 

Mae pob cyfarfod lle y cafodd yr ymchwiliad hwn ei drafod yn ymddangos o dan y tab 'Cyfarfodydd' uchod.

 

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad, gohebiaeth a dogfennau ysgrifenedig perthnasol eraill wedi’u cyhoeddi ar waelod y dudalen hon.

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor at PwyllgorAC@cymru.gov.uk

 

·         Dychwelyd i hafan y Pwyllgor

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

 

NDM5601 Alun Ffred Jones (Arfon)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Gorffennaf 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/10/2014

Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad