Manylion y penderfyniad
Debate: The Equality and Human Rights Commission Wales Annual Report 2013-14
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 17.16
NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi Adolygiad Blynyddol
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol'.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r Bil
Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014
sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac
sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith bod
gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i
adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gofyn bod Llywodraeth Cymru
yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oes llawer o
gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng
Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod parhau i fod yn
llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r rôl sylfaenol y
mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei
chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi Adolygiad Blynyddol
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol'.
2. Yn croesawu'r Bil
Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014
sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac
sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod.
3. Yn croesawu'r ffaith bod
gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i
adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig.
5. Yn gofyn bod Llywodraeth
Cymru yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod.
6. Yn gresynu nad oes llawer o
gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng
Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
7. Yn credu bod parhau i fod
yn llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru.
8. Yn croesawu'r rôl sylfaenol
y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei
chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2014
Dyddiad y penderfyniad: 14/10/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad