Manylion y penderfyniad
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad
i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob
pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer
Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
Atebwyd cwestiynau 1 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2.
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2014
Dyddiad y penderfyniad: 14/10/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: