Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5587 Elin Jones AC
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i
economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;
2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar gyfer bwrw ymlaen â'r
'llwybr du';
3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un
prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth llawn i'r 'llwybr glas'
am resymau economaidd, amgylcheddol ac ariannol ac er mwyn rheoli traffig.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i
economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;
2. Yn cadarnhau bod diffyg achos tryloyw dros fwrw ymlaen â'r 'llwybr
du' ac yn galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gyhoeddi
tystiolaeth glir bod materion amgylcheddol wedi cael eu hystyried yn llawn a
bod proses o ddiwydrwydd dyladwy effeithiol wedi ei dilyn;
3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un
prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill ac y bydd, yn ddiamau, yn
effeithio ar gynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y cafodd y 'llwybr glas' ei
ddiystyru yn gynnar ac amlinellu pa amodau economaidd, rheoli traffig,
amgylcheddol ac ariannol y methodd y llwybr â'u cwrdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chamau
gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir fod yn flaenoriaeth
fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
10 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Mewnosod ym mhwynt 4 ar ôl 'llwybr glas':
Yn ogystal â datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus addas
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5587 Elin Jones AC (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd
yn niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;
2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar
gyfer bwrw ymlaen â'r 'llwybr du';
3. Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth
gyhoeddus a chamau gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir
fod yn flaenoriaeth fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig.
4. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau
benthyca newydd Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill;
a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
ystyriaeth llawn i'r 'llwybr glas' am resymau economaidd, amgylcheddol ac
ariannol ac er mwyn rheoli traffig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2014
Dyddiad y penderfyniad: 01/10/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad